|
Dilynwch y ddolen
i ddarllen am rôl gwirfoddolwr:
Cynghorydd Gwirfoddol
Gwirfoddolwyr Asesu Pyrth
Gwirfoddolwr Gweinyddol
Gwirfoddolwr Cymorth TG
Gwirfoddolwr Derbynfa
| Cynghorydd
Gwirfoddol Yn recriwtio nawr!
|
 |
Ein cynghorwyr
gwirfoddol yw asgwrn cefn Canolfan Cyngor ar Bopeth Abertawe. Hebddynt,
ni fyddai’r gwasanaeth yn bodoli. Chwaraeant rôl bwysig
wrth helpu cleientiaid gydag amryw o faterion, o fudd-daliadau, dyledion,
cyngor ar berthynas, mewnfudo, tai a llawer mwy. |
Beth
mae’r Cynghorwyr Gwirfoddol yn ei wneud?
Rhydd
y Cynghorwyr Gwirfoddol gyngor wyneb yn wyneb i gwsmeriaid a gallant hefyd
gynghori ar y ffôn a gallwch helpu hefyd drwy gynnig cyngor yn ein
canolfannau cymorth niferus o gwmpas Abertawe; ynghyd â mynychu
digwyddiadau i hybu ymwybyddiaeth o Ganolfan Cyngor ar Bopeth Abertawe
a’r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.
Pa gymwysterau sy’n angenrheidiol i fod yn Gynghorydd Gwirfoddol?
Dim, mae gennym raglen hyfforddiant sy’n gydnabyddedig yn genedlaethol
ac o wneud hyn byddwch yn ennill cymhwyster cydnabyddedig mewn rhoi cyngor.
Gall yr hyfforddiant gymryd rhwng 6 a 12 mis yn dibynnu ar faint o amser
y gallwch ei sbario; ac yn ystod yr amser hwn cewch arsylwi cynghorwyr
profiadol i ennill hyder a phrofiad yn ogystal â chynnal ein hasesiadau
porth, lle byddwch yn cynnal cyfweliad byr gyda’r cleient i bennu’u
problemau. Unwaith i chi gwblhau’r hyfforddiant byddwch yn derbyn
cymhwyster cydnabyddedig cenedlaethol ac yn gallu cynnig cyngor i’n
cleientiaid.
Faint o amser y bydd rhaid i mi ei roi a beth am gostau?
Mae gwirfoddoli gyda ni yn golygu rhoi ychydig o’ch amser i helpu’r
gymuned leol. Deallwn fod gan bawb ymrwymiadau ac rydyn ni’n hyblyg
iawn o ran faint o amser y gallwch ei roi. Pan fyddwch yn gwirfoddoli
gyda ni, bydd unrhyw gostau ar gyfer gofal plant neu deithio i'r ganolfan
ac o’r ganolfan yn cael eu had-dalu, felly ni fyddwch ar eich colled.
Yn ogystal, ni fydd gwirfoddoli yn effeithio ar eich hawliau budd daliadau.
Beth yw’r manteision i mi?
Nid yw gwirfoddoli’n golygu rhoi drwy’r amser, oherwydd gallwch
gymryd ambell beth bach hefyd. Mae gwirfoddoli gyda ni yn brofiad buddiol
a heriol lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Cewch weithio
ochr yn ochr â thîm amrywiol iawn o bobl gan ddysgu llawer
o sgiliau newydd a fydd yn eich helpu yn eich gyrfa neu yn gyffredinol
yn eich bywyd bob dydd. Does dim byd yn fwy boddhaol na helpu rhywun gyda’i
broblem, a gweld yr effaith y gallwch gael ar ei fywyd.
| Gwirfoddolwyr
Asesu Pyrth Yn Recriwtio Nawr!
|
 |
Ein
Gwirfoddolwyr Asesu Pyrth yw’r gweithwyr sy’n blaenoriaethu
ein gwasanaeth. Maent yn pennu’r hyn sydd ei angen ar y cleient
ac yna’n cyfeirio’r cleient ar hyd y llwybr cywir i ddatrys
eu problemau. |
Beth
mae Gwirfoddolwyr Asesu Pyrth yn ei wneud?
Yn y ganolfan, y gweithwyr Asesu Pyrth yn gyffredinol yw’r staff
cyntaf i ddod i gysylltiad â’r cleient ar ôl y gweithiwr
derbynfa. Maent yn gweithio naill ai wyneb yn wyneb â chleientiaid
neu ar y ffôn a’u swyddogaeth yw cael gwybodaeth sylfaenol
gan y cleient. Galluoga hyn yr Asesydd Porth i bennu'r ffynhonnell orau
ar gyfer cynghori’r cleient.
Pa gymwysterau sy’n angenrheidiol i fod yn Wirfoddolwr Asesu
Pyrth?
Dim, mae gennym raglen hyfforddiant gydnabyddedig cenedlaethol a fydd
yn dysgu popeth i chi am roi cyngor a sut yr ydym yn gweithredu fel Canolfan
Cyngor ar Bopeth. Os ydych yn mwynhau bod yn Asesydd Porth yna bydd cyfle
i chi symud ymlaen ymhellach drwy wneud yr hyfforddiant cynghori llawn.
Faint o amser y bydd rhaid i mi ei roi a beth am gostau?
Mae gwirfoddoli gyda ni yn golygu rhoi peth o’ch amser i’n
helpu ni a’r gymuned leol. Deallwn fod gan bawb eu hymrwymiadau
ac rydym yn hyblyg iawn o ran yr amser y gallwch ei roi. Pan fyddwch yn
gwirfoddoli bydd unrhyw gostau gofal plant neu deithio i’r ganolfan
neu o’r ganolfan yn cael eu had-dalu, felly ni fyddwch ar eich colled.
Yn ogystal, ni fydd gwirfoddoli gyda ni yn effeithio ar eich hawliau budd-daliadau.
Beth yw’r manteision i mi?
Nid yw gwirfoddoli’n golygu rhoi drwy’r amser, oherwydd gallwch
gymryd ambell beth bach hefyd. Mae gwirfoddoli gyda ni yn brofiad buddiol
a heriol lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Cewch weithio
ochr yn ochr â thîm amrywiol iawn o bobl gan ddysgu llawer
o sgiliau newydd a fydd yn eich helpu yn eich gyrfa neu yn gyffredinol
yn eich bywyd bob dydd. Does dim byd yn fwy boddhaol na helpu rhywun gyda’i
broblem, a gweld yr effaith y gallwch gael ar ei fywyd.
| Gwirfoddolwr
Gweinyddol Yn Recriwtio Nawr!
|
 |
Ein
Gwirfoddolwyr Gweinyddol yw sylfaen ein gwasanaeth. Maent yn cefnogi’r
tîm cynghori a’n tîm gwasanaethau arbenigol ynghyd
â chynnal y ganolfan yn gyffredinol.
|
Beth
mae Gwirfoddolwyr Gweinyddol yn ei wneud?
Mae Gwirfoddolwyr Gweinyddol yn ymgymryd ag amryw o dasgau, o ateb y ffôn,
ffeilio, argraffu, rheoli stoc y ganolfan, diweddaru gwybodaeth, cynorthwyo
cynghorwyr a gweithwyr achos a sicrhau yn gyffredin fod y ganolfan yn
effeithlon wrth weithredu o ddydd i ddydd.
Pa gymwysterau sy’n angenrheidiol i fod yn Wirfoddolwr Gweinyddol?
Dim, er ein bod yn gofyn fod gennych ddiddordeb mewn gweinyddiaeth, gallwn
ddysgu popeth y dylech ei wybod a byddwch yn derbyn cymorth ymarferol
ac arweiniad pan fo hynny’n angenrheidiol.
Faint o amser y bydd rhaid i mi ei roi a beth am gostau?
Mae gwirfoddoli gyda ni yn golygu rhoi peth o’ch amser i’n
helpu ni a’r gymuned leol. Deallwn fod gan bawb eu hymrwymiadau
ac rydym yn hyblyg iawn o ran yr amser y gallwch ei roi. Pan fyddwch yn
gwirfoddoli bydd unrhyw gostau gofal plant neu deithio i’r ganolfan
neu o’r ganolfan yn cael eu had-dalu, felly ni fyddwch ar eich colled.
Yn ogystal, ni fydd gwirfoddoli gyda ni yn effeithio ar eich hawliau budd-daliadau.
Beth yw’r manteision i mi?
Nid yw gwirfoddoli’n golygu rhoi drwy’r amser, oherwydd gallwch
gymryd ambell beth bach hefyd. Mae gwirfoddoli gyda ni yn brofiad buddiol
a heriol lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Cewch weithio
ochr yn ochr â thîm amrywiol iawn o bobl gan ddysgu llawer
o sgiliau newydd a fydd yn eich helpu yn eich gyrfa neu yn gyffredinol
yn eich bywyd bob dydd. Gall y profiad gwaith y gallwch ei ennill gyda
ni fel rhan o’r tîm gweinyddol fod yn gam da tuag at yrfa
newydd neu ddyrchafiad a byddwn yn eich cynorthwyo bob cam o’r ffordd.
| Gwirfoddolwr
Cymorth TG Yn Recriwtio Nawr!
|
 |
Rhan sylfaenol
i bron bob math o waith heddiw yw Technoleg Gwybodaeth. Mae’n
Gwirfoddolwyr Cymorth TG yn rhan allweddol o’r gwaith o gynnal
systemau TG y ganolfan ynghyd â darparu cymorth technegol i’n
staff. |
Beth
mae Gwirfoddolwyr Cymorth TG yn ei wneud?
Mae’r Gwirfoddolwyr Cymorth TG yn cyfrannu at gynnal a chadw systemau
TG y ganolfan o ddydd i ddydd, yn sicrhau bod y rhwydwaith yn weithredol
ac nad oes unrhyw broblemau gan y defnyddiwr. Defnyddia’r ganolfan
y dechnoleg diweddaraf, ac o ganlyniad, mae arni angen cymorth technegol
a chynhaliaeth. Prynu cyfrifiaduron newydd sy’n ateb ein gofynion
cyffredinol, cynnal ein gweinyddwr a’r rhwydwaith a darparu cymorth
technegol i ddefnyddwyr; dyma rai o’r tasgau allweddol i’r
Gwirfoddolwr Cymorth TG ymgymryd â hwy.
Pa gymwysterau sy’n angenrheidiol i fod yn Wirfoddolwr Cymorth
TG?
Dim, ond disgwyliwn fod gennych ddiddordeb mewn TG. Mae gennym weinyddwr
TG profiadol yn y ganolfan a fydd yn gallu cynnig cymorth ymarferol ac
arweiniad i chi, er mwyn i chi gyfarwyddo â thechnoleg y ganolfan.
Faint
o amser y bydd rhaid i mi ei roi a beth am gostau?
Mae gwirfoddoli gyda ni yn golygu rhoi peth o’ch amser i’n
helpu ni a’r gymuned leol. Deallwn fod gan bawb eu hymrwymiadau
ac rydym yn hyblyg iawn o ran yr amser y gallwch ei roi. Pan fyddwch yn
gwirfoddoli bydd unrhyw gostau gofal plant neu deithio i’r ganolfan
neu o’r ganolfan yn cael eu had-dalu, felly ni fyddwch ar eich colled.
Yn ogystal, ni fydd gwirfoddoli gyda ni yn effeithio ar eich hawliau budd-daliadau.
Beth
yw’r manteision i mi?
Nid yw gwirfoddoli’n golygu rhoi drwy’r amser, oherwydd gallwch
gymryd ambell beth bach hefyd. Mae gwirfoddoli gyda ni yn brofiad buddiol
a heriol lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Cewch weithio
ochr yn ochr â thîm amrywiol iawn o bobl gan ddysgu llawer
o sgiliau newydd a fydd yn eich helpu yn eich gyrfa neu yn gyffredinol
yn eich bywyd bob dydd. Gall y profiad gwaith y gallwch ei ennill gyda
ni fel rhan o’r tîm gweinyddol fod yn gam da tuag at yrfa
newydd neu ddyrchafiad a byddwn yn eich cynorthwyo bob cam o’r ffordd.
 |
Y dderbynfa yw’r
man lle caiff ein cleientiaid eu profiad cyntaf o Ganolfan Abertawe
felly mae’r Derbynnydd yn un o’r swyddi pwysicaf yn y
ganolfan. |
Beth
mae Gwirfoddolwr Derbynfa yn ei wneud?
Gwirfoddolwyr Derbynfa yw wyneb ein sefydliad, maent yn delio â
phob math o ymholiadau gan ein cleientiaid sy’n dod i mewn i’r
ganolfan ac maent yn allweddol wrth gadw trefn a rheoli ein hardal aros.
Pa gymwysterau sy’n angenrheidiol i fod yn Wirfoddolwr Derbynfa?
Dim, ond disgwyliwn i chi fod â diddordeb mewn gwaith derbynfa,
byddwn yn darparu’r holl hyfforddiant y bydd arnoch ei angen i gyfarwyddo
â’r swydd. I fod yn dderbynnydd mae’n rhaid i chi fod
yn barod i ddelio ag amrywiaeth o bobl a dylech feddu ar sgiliau rheoli
pobl da.
Faint o amser y bydd rhaid i mi ei roi a beth am gostau?
Mae gwirfoddoli gyda ni yn golygu rhoi peth o’ch amser i’n
helpu ni a’r gymuned leol, deallwn fod gan bawb eu hymrwymiadau
ac rydyn ni’n hyblyg iawn o ran yr amser y gallwch ei roi. Pan fyddwch
yn gwirfoddoli bydd unrhyw gostau gofal plant neu deithio i’r ganolfan