Croeso

Sefydlwyd Canolfan Cyngor ar Bopeth Abertawe ym 1939 ac mae wedi bod yn gwasanaethu’r gymuned yn Abertawe byth ers hynny.

Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol, diduedd yn rhad ac am ddim; a gallwn eich cynghori ar bob agwedd o’r gyfraith, megis eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.

Cynigiwn wybodaeth gynhwysfawr; ac mae’r gwasanaeth cynghori yr ydym yn ei gynnig ar gael i bawb; beth bynnag fo’u hil, credoau crefyddol, anabledd, statws iechyd, rhywioldeb, rhyw neu’u hiaith.

Mae ein hymroddiad i chi; ac i ddarparu gwasanaeth effeithlon i chi, dyma pam ein bod yn cyflwyno mesurau newydd i geisio lleihau amseroedd aros, gwneud ein gwasanaeth yn haws ei gyrraedd a bod yno i chi; pan fydd arnoch ein hangen fwyaf.

Ac os na allwn ateb eich ymholiad; byddwn yn eich cyfeirio at rywun a all wneud hynny.


Newyddion
DATGANIAD I'R WASG

Bydd yr Aelod Cynulliad a'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Dr Brian Gibbons, yn ymweld â Chanolfan Cymorth ar Bopeth Abertawe ddydd Gwener, 12 Mehefin. Fel arfer cynigir cyfleusterau preifat a chyfrinachol i ymwelwyr CAB, ond ar yr achlysur hwn, bydd y Gweinidog yn perfformio swyddogaeth gyhoeddus iawn.

Bydd Dr Gibbons yn agor swyddfeydd Canolfan Cyngor Ar Bopeth Abertawe yn swyddogol yn eu lleoliad newydd ar Stryd Pleasant, Abertawe am 12.30pm. Symudodd y CAB o'r Stryd Fawr ym mis Mawrth i swyddfeydd Llys Glas yn yr hen Orsaf Heddlu fel rhan o bartneriaeth â Chymdeithas Tai Gwalia. Mae staff a chleientiaid wrthi'n ymgartrefu yn yr adeilad modern, newydd sydd â digon o ofod, egni a golau effeithlon, a chyfleuster hyfforddi sy'n ennyn cenfigen sawl grwp arall Dywedodd y Gweinidog, "Rwy'n falch o allu agor Canolfan Cymorth Ar Bopeth Abertawe yn swyddogol.

Mae Cyngor Ar Bopeth yn cynnig gwasanaeth gwych i'w holl aelodau yn y gymuned, ac yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, pan fod pobl a mwy o angen cyngor ar fudd-daliadau, yn brwydro dyled, neu hyd yn oed yn wynebu colli'u cartref, mae'r cyngor yn fwy gwerthfawr fyth. Mae Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yn ymroddedig i helpu pobl i ymdopi ag effeithiau'r dirwasgiad ac mae cymorth Cyngor Ar Bopeth wrth wneud hyn yn amhrisiadwy."

Mae'r digwyddiad yn rhan o gyfres o weithgareddau y bydd y Ganolfan yn ymglymedig â hwy yn ystod y flwyddyn nesaf wrth i'r gwasanaeth lleol a chenedlaethol ddathlu'i ben-blwydd yn 70.